Saturday, May 05, 2012

Er cof am Howell Evans RIP


Bu farw Howell Evans ar 21 Ionawr, 2012 yn 104 mlwydd oed.

Cafodd ei eni yn Sir Fôn ond treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Nulyn.

Gallwch weld a chlywed ei atgofion o'r Capel Cymraeg yn Talbot Street, lle yr oedd ef yn aelod. [Wedi ei recordio yn gynnar yn 2011]

Yr oedd hefyd yn aelod o Côr Meibion ​​Cymry Dulyn, lle cyfarfûm ag ef am y tro cyntaf yn y 1970au.

Cymro Cymraeg yn wir yr oedd Howell, a hefyd yn gŵr bonheddig iawn.

Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
Y llygaid na all agor.



No comments: